Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
15 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12657
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.30
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaglen fuddsoddi 2022-23
Dechreuodd yr eitem am 14.45
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Pwynt o Drefn
Cododd Janet Finch-Saunders Bwynt o Drefn i ofyn am gywiriad i’r cofnod mewn cysylltiad â sylwadau a wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, bod yr Aelod yn landlord yn Llandudno. Dywedodd yr Aelod fod hyn yn anghywir a gwnaeth gais i’r Dirprwy Weinidog dynnu’r datganiad yn ôl a chywiro’r cofnod. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n adolygu’r Gofrestr ac yn cyhoeddi ymddiheuriad os oedd wedi camarwain y Senedd.
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU sy’n gyson â Sero Net - TYNNWYD YN ÔL
6 Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7926 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
25 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-22
Dechreuodd yr eitem am 16.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7952 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol - Cynghorau) diwygiedig. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
12 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.32
NDM7950 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
Gosodwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 1 Tachwedd 2021. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.32
NDM7951 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
10 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022